Skip navigation

Innovation Labs

2008: Journalism Briff Arloesi ar gyfer Newyddion Sy’n Torri

Problem
Mae newyddion teledu treiglol a radio byw yn wasanaethau gwych ar gyfer darganfod a dilyn newyddion sy’n torri a chwaraeon. Gwnaed sawl ymgais i ddarparu gwasanaeth yr un mor atyniadol ar-lein, ond llwyddiant cyfyngedig yn unig a gafwyd. Mae’n rhaid bod ateb gwell ar gael. Mae’n rhaid ei bod hi’n bosib i gynllunio gwasanaeth newyddion sy’n torri naturiol ar-lein a denu cynulleidfa newydd.

Cwestiwn
Allwch chi ganfod y problemau gyda darganfod a dilyn stori newyddion sy’n torri ar y rhyngrwyd? Beth yw’r llwyfannau ar-lein gorau ar gyfer newyddion sy’n torri ar-lein (html, delweddau, teclynnau/rhaglenni, symudol, AV, porthiannau, BBCi ayyb)? Rydym angen darparu gwybodaeth ddibynadwy o ansawdd uchel i’n cynulleidfa yn gyflym ac i ble bynnag y maen nhw ac mewn ffordd y gallant werthuso a dewis dilyn stori’n rhwydd os oes ganddynt ddiddordeb.

Allwch chi gynhyrchu prototeip sy’n cynnig ateb i un o’r problemau yr ydych wedi eu canfod? Egluro pam mai’r llwyfan yr ydych wedi ei ddewis yw’r un gorau ar gyfer newyddion sy’n torri a pha gynulleidfa y mae’n ei wasanaethu? Arddangos eich datrysiad trwy ddangos sut y byddai wedi gwella y sylw a roesom i DDWY stori newyddion sy’n torri/chwaraeon neu DDAU ddigwyddiad; digwyddiad rhyngwladol ar raddfa fawr fel bomio 7/7 a stori/digwyddiad llai o ddiddordeb cyfyngedig.

Cyfyngiadau
• Rhaid i chi ddiffinio’r diffyg yn y gwasanaethau newyddion sy’n torri/chwaraeon presennol yn eglur
• Rhaid gallu darparu’r cynnyrch o fewn 6-12 mis
• Cydweddu gyda’n gwasanaethau Newyddion a Chwaraeon presennol

Camau Nesaf a Argymhellir
• Darganfod sut y caiff newyddion sy’n torri ei gyflenwi ar fan Newyddion BBC.
• Darganfod sut y caiff newyddion sy’n torri ei gyflenwi ar BBC News 24.
• Darganfod sut y caiff newyddion sy’n torri ei gyflenwi ar fannau eraill.



You can also download the full quality widescreen version by clicking here.