2008: Sain A Cherddoriaeth
Mae gennym ddiddordeb yn y rhan fwyaf o bethau! Ond, yn fwy penodol, dyma rai meysydd sydd angen rhywfaint o ysbrydoliaeth.
- Darlunio radio – mae radio yn gynyddol yn cael ei ddefnyddio trwy gyfrwng dyfeisiadau gyda sgrin – o deledu digidol i ffonau symudol – beth fedrwn ei wneud?
- Darganfod cerddoriaeth – mae’r BBC wastad wedi chwarae rhan ddylanwadol yn cyflwyno pobl i gerddoriaeth newydd. Sut mae’r BBC yn cynnal hyn a sut ydym yn cloriannu argymhellion golygyddol (ein cynhyrchwyr a’n cyflwynwyr) a ffrwyno grym torfol ein cynulleidfaoedd?
- Symudol – sut allwn ni wasanaethu gwrandawyr sy’n defnyddio llwyfan symudol yn bennaf, yn hytrach na Chyfrifiadur Personol, yn well?
- Personoli – mae sawl gwefan yn defnyddio personoli neu argymhellion awtomataidd. Beth yw’r ffordd orau i ddefnyddio’r dechnoleg hon yng nghynnwys radio a cherddoriaeth y BBC a sut allwn ni gynnig rhywbeth unigryw?