Open Innovation Calls - research
It's been a little time since this years labs came to a close - we've... Read more »
14 Jul 2008 12:07pm
Mae’r BBC yn noddi a dangos nifer o ddigwyddiadau bob blwyddyn o’r enfawr (Y Gemau Olympaidd, Glastonbury) i’r arbenigol (One Big Weekend Radio 1, gemau chwaraeon lleol). Mae Future Media & Technology yn chwilio am fformatau newydd sy’n caniatáu rhyngweithiadau yn seiliedig ar ddigwyddiadau a rhaglenni seiliedig ar ddigwyddiadau, yn defnyddio dyfeisiadau symudol.
Gall y rhyngweithiadau hyn gynnwys gwasanaethau’n seiliedig ar deleffoni neu wasanaethau sydd ddim yn seiliedig ar deleffoni ac fe allant ddefnyddio unrhyw dechnoleg sydd ar gael yn helaeth ar ffonau symudol (er nad ydym yn defnyddio Flash Lite ar hyn o bryd). Efallai y byddwch eisiau defnyddio: gwasanaethau yn seiliedig ar leoliad, negesu, defnydd o Sgriniau Mawr y BBC, semacodau, rhyngweithio sgrin fach i sgrin fawr (a’r ffordd arall), fideo alwad, RFID, ardaloedd wi-fi. Dylid gallu defnyddio’r rhyngweithiadau eto fel y gallwch ei fodelu a’u greu o amgylch un digwyddiad penodol, ac fel y gall y BBC ei ddefnyddio eto ar gyfer amrywiaeth o ddigwyddiadau.
Dylai’r rhyngweithiadau ategu’r hyn sydd gan y digwyddiad a rhaglenni cysylltiedig i’w cynnig, yn ddelfrydol fe ddylent ymestyn cyrhaeddiad a gwerthfawrogiad tuag at aelodau’r gynulleidfa sydd yn y digwyddiad a’r rhai sy’n ei wylio neu’n gwrando arno. Gall y rhyngweithiadau hefyd ymestyn i gynnwys cyn ac ar ôl y digwyddiad ei hun. Bydd syniadau cryf hefyd yn gwneud i’r BBC edrych yn arloesol i’r gynulleidfa.
Mae gwasanaethau symudol y BBC yn cael eu darparu am y gost isaf posib i’r defnyddiwr, felly dylid cadw hyn mewn cof wrth lunio cynigion.
Ni chaiff prosiectau sydd yn osodiadau celf yn unig eu dewis ar gyfer datblygiadau yn y Labs.